Mae’r cerflunydd o fri rhyngwladol Beth Cavener Stichter yn creu ffigurau anifeiliaid mynegiadol mawr trwy dechneg hynod ddiddorol a thrylwyr. Mae ei ffurfiau anifeiliaid pwerus yn adlewyrchu seicoleg ddynol: ‘Mae greddfau anifeiliaid cyntefig yn llechu yn ein dyfnderoedd ein hunain’. Yn ystod ei harddangosiad bydd yn rhoi cipolwg ar sut y gall rhywun delio ag elfennau o ystum a mynegiant gyda shifftiau cynnil