Image: Jim Robison with Virginia Scotchie in the background 2013
Mae Jim yn Gymrawd etholedig Cymdeithas Crochenwyr Crefft Prydain a chyn-Gadeirydd Cymdeithas Crochenwyr y Gogledd. Yn wneuthurwr ac addysgwr brwd, mae Jim wedi cymryd rhan ym mhob Gŵyl Aberystwyth ac wedi bod yn Feistr Seremonïau i’r mwyafrif ohonyn nhw. Mae Jim wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau serameg ac mae’n awdur o’r llyfr Large Scale Ceramics, ac yn gyd-awdur ‘Slab Techniques’. Wedi’i fagu a’i addysgu yn UDA, symudodd i Swydd Efrog ym 1972, a sefydlu Oriel a Stiwdio Booth House yn Holmfirth. Mae ei waith ei hun fel arfer wedi’i adeiladu â slabiau gan ddefnyddio technegau adeiladu personol wedi’u cyfuno â gweadau anarferol ar yr arwyneb gan ddefnyddio haenau lluosog o glai a gwydredd.
Image: Ingrid Murphy with Ponimin Hum 2011
Yn 1990 graddiodd Ingrid Murphy o Ysgol Gelf a Dylunio Crawford, Corc ac yn 1992 cwblhaodd ei MA mewn Serameg yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd lle mae hi ar hyn o bryd yn arweinydd academaidd trawsddisgyblaeth. Mae ei hymchwil mewn diwylliant gwneuthurwyr ac addysg ryngddisgyblaethol ac mae hi hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil hefo’r Cyngor Prydeinig yn Tsieina. Mae Ingrid Murphy wedi bod â rôl Meistr Seremonïau ar gyfer yr Ŵyl ers 2007, ochr yn ochr â Jim Robison. Eleni bydd hi yn rhoi darlith am ei chorff diweddar o waith y gallwch ei weld yn Oriel 1 Canolfan y Celfyddydau yn ystod penwythnos yr Ŵyl. Mae’r arddangosfa ‘Seen and Unseen’ yn rhan o’r gyfres ‘The Language of Clay’ a guradwyd gan Ceri Jones sy’n cynnwys gwaith diweddar Ingrid lle mae hi wedi cydweithio gydag eraill ar dechnolegau cynhyrchu digidol.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.