logo

2025 – Stondinau Masnach a Noddwyr

Stondinau Masnach & Noddi


Lawrlwythwch pecyn Stondinau & Noddi i dderbyn yr holl wybodaeth a prisiau >>>

 Pecyn Stondinau & Noddi ICF Corporate Sponsorship Pack 

I fynnu’ch stondin, gynnig noddi neu unrhyw ymholiadau, ebostiwch Festival Administrator 

Gyda dros 1500 o bobl yn ymweld o Aberystwyth – Awstralia, mae’r ICF yn gyfle perffaith i’ch cwmni gael ei weld gan ddarpar gwsmeriaid gwerthfawr. P’un a ydych chi’n fwyty lleol, neu’n frand ynni rhyngwladol, mae noddi’r ŵyl yn debygol o fod yn fuddsoddiad hynod lwyddiannus. Gallwch gefnogi’r celfyddydau, addysg leol a chenedlaethol a thalent newydd tra’n ennill incwm a chynyddu ymwybyddiaeth eich brand i gynulleidfa weithredol. Gyda gwariant cyfartalog o £500 y person ar y penwythnos, rydym yn awyddus i gefnogi diwydiant lleol a chenedlaethol gyda’n gŵyl.

Mae stondinau masnach wedi dod yn rhan werthfawr o’r Ŵyl Serameg. Maent yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr brynu deunyddiau ac offer yn uniongyrchol gan gyflenwyr ac mae’r cyflenwyr yn eu tro yn cael arddangos cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Rydym hefyd yn croesawu stondinau masnach gan sefydliadau serameg fel orielau a chyrsiau sy’n dysgu serameg a dylunio 3-D. Ein nod yw darparu amrywiaeth o stondinau masnach er mwyn i brofiad yr ymwelwyr cynnwys: cyflenwadau a deunyddiau serameg, gwasanaethau a gwybodaeth, cyhoeddiadau a llyfrau serameg, a llawer mwy! Mae’r ŵyl yn denu dros 1000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Eleni, croesawn y cwmnïau canlynol fel noddwyr Aur:

https://www.potclays.co.uk/


Cromartie & Skutt – https://www.cromartiehobbycraft.co.uk/