logo

Nicholas Lees – Lloegr

Image credit: ©Russell Sach

 

Astudiodd Nicholas Lees ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (BA) ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (MA), ar ôl astudio Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Caint (BA) hefyd. Yn 2012 cwblhaodd MPhil yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn eang yn y DU a thramor ac fe’i cedwir mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys y V&A, Oriel Gelf Dinas Efrog, Amgueddfa Fitzwilliam, Westerwald Keramikmuseum yn yr Almaen a’r Museo Internazionale delle Ceramiche yn Faenza. Mae wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobr Cersaie yn Biennale y Faenza yn yr Eidal yn 2015, y Wobr Gerflunio Genedlaethol o Ganolfan Arddangos Bluecoat yn Lerpwl yn 2010 a Gwobr Desmond Preston am Ragoriaeth mewn Arlunio yn y Coleg Celf Brenhinol yn 2012. Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg uwch yn y DU, fel Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bath Spa rhwng 2000 a 2010 ac fel yn ddarlithydd gwadd ar gyrsiau Ôl-raddedig yng Nghaerfaddon, y Coleg Celf Brenhinol ac UCA Farnham ers 2010. Mae’n byw ac yn gweithio yn Hampshire, y DU.

Gwefan: www.nicholaslees.com

Instagram: @nicholas.lees
Date: February 04, 2025