Dechreuodd Jane Jermyn astudio cerameg yn ei 40au, gan dderbyn ei MA o’r Coleg Celf Cenedlaethol, Dulyn yn 2009. Mae hi wedi teithio’r byd yn cymryd rhan mewn symposia, gweithdai, preswyliadau ac arddangosfeydd mewn dros 20 o wledydd yn ogystal ag arddangos mewn gwyliau serameg rhyngwladol yn y DU, Japan, De Corea, Iwerddon ac India. Ers 2017 mae hi wedi bod yn aelod etholedig o’r Academi Serameg Ryngwladol yng Ngenefa.
Mae Jermyn yn adeiladu ei ffurfiau haniaethol organig â llaw wedi’u hysbrydoli gan y byd naturiol. Mae hi’n gweld ei gwaith fel dathliad, yn hytrach na dynwarediad o natur.
Bydd Jane yn arddangos tanio obvara yn ystod yr ŵyl. Dysgodd am obvara am y tro cyntaf mewn symposiwm cerameg yn Belarus yn 2009 – lle roedd yn ei chael yn hynod ddiddorol ac yn caru effeithiau uniongyrchol y dechneg hon. Yn 2012 cychwynnodd dudalen Facebook “Technegau tanio Obvara” i ledaenu’r gair ac erbyn hyn mae dros 4,000 o aelodau ac mae bellach yn cael ei hymarfer ledled y byd. Mae Obvara, sy’n golygu ‘sgaldio’ yn Rwsieg, yn ddull traddodiadol o addurno crochenwaith, sy’n dyddio’n ôl tua 600 mlynedd, er mai ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sydd, trosglwyddwyd y dechneg yn bennaf ar lafar gwlad mewn nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop. .
Instagram: https://www.instagram.com/janejermyn
Gwefan: www.janejermynceramics.com