Ymunwch â ni ar gyfer ICF 2025 – 27-29 Mehefin
———-
TOCYNNAU A LLETY
Bydd yr Ŵyl nesaf yn cael ei chynnal ddydd Gwener 27 – ddydd Sul 29 Mehefin gyda tri diwrnod deinamic llawn o arddangosiadau ysbrydoledig, tanio mewn odynau, arddangosfeydd, stondinau masnach, gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Bydd yr ŵyl yn cychwyn am 10am ddydd Gwener 27 Mehefin, gyda desgiau cofrestru ar gyfer tocynnau a llety Prifysgol Aberystwyth hefyd ar agor o 10am yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Mae tocynnau early-bird nawr ar werth a gellir eu prynu o wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ***yma*** ac o’i swyddfa docynnau
SWYDDFA DOCYNNAU Ffôn: 01970 623 232
Ar agor 10am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a 1.30 – 5.30pm ar ddydd Sul
Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ***yma*** i gael diweddariadau rheolaidd am Ŵyl 2025.
Dewch â’ch tocyn neu e-bostiwch gadarnhad i’r ddesg gofrestru wrth gyrraedd.
Os oes gennych anabledd ac angen cynorthwyydd, gallwch wneud cais am docyn am ddim ar gyfer eich cynorthwyydd i fynd gyda chi i’r ŵyl drwy’r cynllun HYNT. Mae hyn yn agored i bawb. Dilynwch y ddolen am fwy o fanylion: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/access
2025 TOCYNNAU CYNNAR – prisiau tan 28 Cwefror
TOCYNNAU’R PENWYTHNOS
Pris Llawn | £175
Crochenwyr De Cymru / Crochenwyr Gogledd Cymru | £160
Myfyrwyr| £115
Plant dan 14 oed | Am ddim
Grwpiau: talu am 10 tocyn a chael un ychwanegol am ddim!
TOCYNNAU DIWRNOD
Dydd Gwener | £100
Crochenwyr De Cymru / Crochenwyr Gogledd Cymru | £80
Dydd Sadwrn | £120
Crochenwyr De Cymru / Crochenwyr Gogledd Cymru | £110
Dydd Sul | £110
Crochenwyr De Cymru / Crochenwyr Gogledd Cymru | £95
Plant dan 14 oed | Am ddim
Canslo/Ad-daliadau
Os oes angen i chi ganslo eich archeb gŵyl am unrhyw reswm, gallwn gyhoeddi ad-daliad llawn neu nodyn credyd hyd at 31 Mawrth 2025. Ar ôl y pwynt hwn, ni allwn gynnig ad-daliad.
LLETY AR GYFER YR ŴYL YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ychydig o lety yn ystod yr ŵyl. I archebu lle ewch i https://bookaccommodation.aber.ac.uk/?l=cy-GB a defnyddio’r cod hyrwyddo ICF2025.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau llety at Swyddfa Gynhadledd y Brifysgol y gellir cysylltu â hwy drwy e-bost yn constaff@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621 960 – nodwch fod swyddfa’r gynhadledd yn cau dydd Iau 22 Rhagfyr ac ailagor 6 Ionawr.
LLETY YN ABERYSTYWTH AC YN YR ARDAL
Am wybodaeth am westai lleol ac opsiynau Gwely a Brecwast, cysylltwch â Swyddfa Groeso Aberystwyth drwy ffonio 01970 612125 neu ewch i’r wefan yma: Gwestai a Llety Aberystwyth
Beth am ymestyn eich arhosiad a gweld beth arall sydd gan Aberystwyth a Chanolbarth Cymru i’w gynnig? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth: Croeso Cymru
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.