Mae Jane Hamlyn MBE yn enw blaengar ym maes crochenwaith stiwdio yn y DU ac mae’n adnabyddus am ei serameg wydredd-halen nodweddiadol. Ar ôl hyfforddi yn Ysgol Gelf Harrow (1972-4) sefydlodd Weithdy Crochendy Millfield ger Doncaster yn Swydd Efrog. Gydag agwedd arbrofol tuag at ei gwaith datblygodd amrediad o botiau a llestri bwrdd ‘ar gyfer defnydd ac addurno’. Mae hi’n ddarlithydd ac yn arddangoswraig ddylanwadol ac yn ffigwr amlwg yn y gymuned wydredd-halen ryngwladol. Cynrychiolir ei gwaith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys y V&A, Caerefrog ac Aberystwyth. Mae Hamlyn yn Gymrawd a chyn gadeirydd y Gymdeithas Grochenwyr Crefft a derbyniodd yr MBE ym 1922.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.