Yn defnyddio clai, mae Sharon Griffin yn cerflunio’r corff a’r wyneb, yn cyfleu hanfod y cyflwr dynol cyffredinol yn ei ystyr mwyaf sylfaenol.
Mae ocsidiau, slipiau a sgleiniau yn cael eu gosod ar arwynebau’r clai gan greu gweithiau celf gweadog, aml-haenog sy’n gynhyrfiol iawn ac yn llawn egni. Mae ei marciau ystumiol greddfol a’i gwybodaeth helaeth o bortreadaeth yn caniatau i Sharon chwarae gyda’r anatomi dynol, yn benodol yr wyneb; gan uno technegau cerflunio traddodiadol gyda serameg ffiguraidd cyfoes.
Yn tynnu ar ei diddordeb mewn addysg, seicoleg ac adrodd straeon, mae Sharon yn creu gwaith sy’n darparu platfform lle gall trafodaethau ynglyn ag hunaniaeth ddigwydd. Trwy adael i’r clai wneud y siarad, mae Sharon yn ‘dod o hyd’ i’r nodweddion o fewn y clai, gan gynhyrchu cymeriadau llawn dychymyg y gallwn i gyd uniaethu â nhw. Gall ei gwaith fod yn galonogol, yn llawen ac ychydig yn anghyfforddus. Mae Sharon yn defnyddio crochenwaith caled gyda slipiau, engobau ac ocsidiau, yn ogystal â sgleiniau synthetig ochr yn ochr â chlai lleol a ddarganfuwyd. Mae ei gwaith yn cael ei danio unwaith yn defnyddio odyn drydan.
Astudiodd Sharon serameg a gwydr yn Mhrifysol Wolverhampton a darlithiodd mewn Celf a Dylunio cyn penderfynu gweithio fel artist lawn-amser yn 2014. Ers hynny, arddangoswyd ei gwaith yn eang ledled y DU a gellir dod o hyd iddo mewn casgliadau preifat a chyhoeddus.
Mae Sharon yn gweithio ac yn byw yn Wellington, Swydd Amwythig gyda’i theulu yn yr ardal lle cafodd ei magu. Mae ei pherthynas gyda’r dirwedd a’i chysylltiad â’r tir yn darparu cyflenwad diddiwedd o ysbrydoliaeth. Mae hyn yn allweddol o safbwynt ei lles emosiynol a chorfforol.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.