‘Rwy’n gweithio yn y traddodiad crochenwaith slip. Ei wreiddiau yng Ngogledd Dyfnaint a’m denodd ato. Ei ddatblygiad diymhongar o’r pot canoloesol bob dydd hyd at ei le bywiog yng nghrochendy’r dydd presennol a’m cadwodd i fynd. Mae’r potiau yn cael eu creu ar gyfer y gegin, y ffwrn a’r bwrdd i ddathlu bwyd mewn bywyd bob dydd.
Er bod fy ngwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhraddodiadau crochenwaith slip Gogledd Dyfnaint, mae ganddo ffresni sy’n gweddu’n dda mewn unrhyw gartref modern a bwthyn gwledig fel ei gilydd, yn uno hen dechnegau gyda rhai mwy diweddar, yn defnyddio slipiau gwlyb fel eu bod yn toddi i mewn i’w gilydd, a thechnegau mwy cadarn sy’n cyflawni sblashis gydag ymylon pluog. Defnyddio slabiau i gymysgu gwahanol weadau. Taflu a newid siapiau i gyflawni pethau na ellir eu gwneud ar yr olwyn crochenydd yn unig, taflu coiliau ac allwthio hefyd. ‘Rwyf newydd ddylunio ac adeiladu odyn nwy 130 troedfedd giwbig sydd wedi fy rhyddau i wneud beth bynnag y mae fy nghalon yn dymuno a photiau mwy o faint hefyd. Mae’r odyn yn cymryd 2 fis o gynhyrchu i’w llenwi ac ‘rwy’n dal i ddysgu sut i’w thanio ond hyd yn oed ar ôl 3 thaniad mae hi wedi symud f’ymarfer creadigol i lefydd na fuaswn wedi medru eu cyrraedd hebddi. ‘Rwyf wrth fy modd gyda thraddodiad a chredaf fod y traddodiadau gorau yn symud ac yn datblygu dros amser. Y nod yw i symud ymlaen tra’n edrych yn ôl o hyd …
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.