Mae’r Ŵyl Serameg Ryngwladol yn edrych am unigolyn brwdfrydig, sy’n medru gweithio ar ei liwt ei hun, i ymuno â thîm yr ŵyl fel Swyddog Gweinyddu a Marchnata ar gyfer yr ŵyl a gynhelir ym mis Gorffennaf 2021. Bydd y rôl allweddol hon yn ffocysu ar ddatblygu ymgyrch marchnata ar gyfer gŵyl 2021 gan gynnwys datblygu gwefan a gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yr ŵyl gan dalu ystyriaeth i gynnwys yn yr iaith Gymraeg er mwyn cyfarfod ag amcanion strategol yr ŵyl a chyrraedd y cynulleidfaoedd a dargedir. Mae’r rôl yn cynnwys cyfrifoldeb am weinyddu cyfarfodydd misol bwrdd yr ŵyl. Bydd daliwr y swydd yn gontractor annibynnol sy’n gweithio yn ardal Aberystwyth.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm yr Ŵyl Serameg Ryngwladol wrth ddatblygu’r ŵyl cyn iddi gael ei chynnal yn 2021 ac mae ‘na botensial i’r rôl ddatblygu yn unol â phrofiad a chymwysterau daliwr y swydd.
Dyddiad cau am geisiadau: Dydd Mawrth Chwefror 25ain 12:00 canol dydd
Am ragor o fanylion a phecyn cais anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at admin@icfwales.co.uk