Curadur ac ymchwilydd yw Loucia Manopoulou sy’n gweithio ar draws meysydd dylunio, crefft a chelf gyfoes. Mae Loucia wedi gweithio mewn ystod eang o amgylcheddau creadigol a diwylliannol am fwy nag 20 mlynedd, yng Ngwlad Groeg ac yn y DU, gan gynnwys orielau masnachol, amgueddfeydd ac yn Gemau Olympaidd Athen 2004.
Mae enghreifftiau o brosiectau diweddar yn cynnwys: Sounds of Making (2018) gosodiad rhyngweithiol i fynd wrth ochr arddangosfa Cara Wassenberg (gwydr a metel) yn Grochendy Farnham; Arddangosfa Crochendy Leach: The Sound of it (2017) yn y Ganolfan Astudio Crefftau. Cafodd yr arddangosfa dderbyniad da gan ymwelwyr y Canolfan Astudio Crefftau a derbyniodd adolygiad cadarnhaol gan y cylchgrawn Crafts (Mawrth/Ebrill 2017). Mae gan Loucia MRes mewn Crefftau (2017) o Brifysgol y Celfyddydau Creadigol, Farnham, ac MA mewn Rheoli Dylunio (1999) o Sefydliad Prifysgol Celf a Dylunio Surrey. Ar hyn o bryd mae Loucia yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol (2017-2021), yn archwilio Crefftau, Curadiaeth a Pherfformiad Prydeinig cyfoes.
Crynodeb:
‘Celf Perfformio o fewn Crefftau”
Nod fy mhrosiect PhD yw archwilio celf perfformio o fewn crefftau, a dadansoddi rôl y curadur mewn prosiectau crefftau cydweithredol cyfoes sy’n arwain at berfformiadau byw. Mae’r ymchwil yn cwestiynu’r newid sy’n dod i’r amlwg yn y cysyniad canolog o ymarfer crefftau, o wrthrychau i ystumiau, wrth gyfeirio at pryderon diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ystyried rôl y curadur, wrth bwysleisio ei gyfraniad ef/hi at arbrofi a defnyddio technoleg flaengar, “gan ddangos bod traddodiad ac arloesedd yn gydnaws, nid yn wrthwynebol” (Adamson, 2013).
Mae’r cyflwyniad penodol hwn yn archwilio dau seramegydd cyfoes sy’n dilyn y datblygiadau diweddar mewn theori crefft gan symud ffocws crefftau y tu hwnt i diriogaeth benodol y gwrthrych. Mae Ashley Howard yn delio ag ystum artistig, gan awgrymu traddodiadau ysbrydol o seremoni; Mae Mirka Golden-Hann yn ymgorffori technoleg ddigidol wrth gyflwyno ei gweithiau gan ehangu a herio ei chyd-destun hanesyddol ac offer. Wrth wraidd y ddau o’r arferion hyn, sy’n ymddangos yn wahanol, mae ymroddiad i glai, wedi’i ysbrydoli gan ymrwymiad i arbrofi a gwybodaeth ddofn am brosesau a deunyddiau.