Artist serameg Prydeinig yw Henrietta MacPhee (g.1985, Llundain). Graddiodd gyda Diploma mewn Celf Gain a Serameg o CityLit yn 2017. Mae ei gwaith yn deillio o archwilio’r egsotig. Trwy bersbectif ffres tebyg i blentyn o’r byd, mae’n portreadu golygfeydd cymdeithasol o dynerwch barddonol a hiwmor. Yn ei gwaith mae hi’n plethu trosiadau ar gyfer dathlu’r amrywiaeth o bobl a diwylliannau sydd mewn bywyd. Mae’n chwareus, yn cynrychioli perthynas ddiniwed ond un sydd ar yr un pryd yn un sy’n procio’r perthynas rhwng ffurf faterol.
Mae ymarfer artistig MacPhee wedi’i ganoli ar serameg. Mae hi’n modelu ac yn cerfio’r clai â llaw ac yn paentio gyda slipiau a gwydreddau i gael arwynebau llachar ffres sy’n gyfoethog, yn amrywiol ac yn gyffyrddadwy. Yn ei gwaith cyfredol mae’n anelu at drosi’r ffin rhwng 2D a 3D, gan gynhyrchu darnau ar raddfa fwy gydag elfennau serameg rhyngweithiol. Lle mae paentio yn gwrthdaro â’r byd go iawn – ac mae gwrthrychau serameg yn ymdoddi i freuddwydion a dychymyg. Yn dyheu am fod yn ‘Lewis Carroll’ hefo paent gan greu ‘Gwlad Hudol i oedolion’, ffenestri i fydoedd lle mae unrhyw beth yn bosibl a lle mae hud yn y cyffredin. Wrth newid persbectif a thrwy ryddhau pethau cyfarwydd o’u rolau arferol, mae hi’n teimlo bod gwerthfawrogiad ein byd yn cael ei wella.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.