Rwyf wedi gweithio yn y sectorau treftadaeth a thwristiaeth ledled y DU ers dros 30 mlynedd. Trwy’r amser yma mae fy angerdd am adrodd straeon De Cymru a’r bobl a ysgogodd y Chwyldro Diwydiannol wedi tyfu wrth i fy ngwybodaeth am hanes a daeareg yr ardal gynyddu. Mae’r angerdd proffesiynol hwn bellach wedi’i gyfuno â fy nghariad newydd, serameg. Astudiais ar gyfer BA Crefftau Dylunio Cyfoes yng Ngholeg Celf Henffordd (graddio haf 2017). Arbrofais gyda llawer o gyfryngau, cyn darganfod fy angerdd am serameg, ac yn benodol, porslen. Yna es ymlaen i astudio MA Serameg yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (graddio Medi 2018).
Yn fy ymarfer, rwy’n ymgorffori gwead a naratif yn fy ngwaith, gan greu ffurfiau syml iawn sy’n cario’r neges fwriadol. Rwy’n ceisio cyfuno fy niddordebau proffesiynol â’m serameg, gan ddatblygu naratif am bobl, daeareg a hanes de Cymru, mewn darnau unigol, neu fel gosodiadau cyfunol. Rwy’n gobeithio gallu cydbwyso creu gosodiadau ac arddangosfeydd ar themâu penodol â chynhyrchu porslen ar gyfer manwerthu. Ar hyn o bryd rwy’n ffodus fy mod wedi derbyn Gweithdy i Raddedigion am flwyddyn yn Stiwdio Clai ‘Fireworks’ yng Nghaerdydd, ac rwy’n adeiladu fy ngweithdy fy hun yn y Fenni.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.