Mae Vineet Kacker yn cael ei ysbrydoliaeth o athroniaethau a chelf a phensaernïaeth y Dwyrain sy’n cyfeirio at y sanctaidd, yn enwedig o ranbarthau Uchel Fynyddoedd Himalaia ar isgyfandir India. Mae’n bwriadu ail-greu ei ddarnau ‘Tirlun’ yn yr Ŵyl, lle mae sylfaen dirwedd organig, rychog, gyda ffurf bensaernïol debyg i stupa ar ei ben. Bydd yn gweithio gyda chlai meddal hydrin sy’n cael ei ymestyn a’i siapio’n gyflym i ffurfiau organig amhenodol. “Mae fy hyfforddiant pensaernïol ffurfiol, yn ogystal â fy nheithiau drwy Fynyddoedd Himalaia yn dylanwadu ar fy ngwaith. Mae’r ddau ddylanwad hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fy mhroses wneud. O ochr y bensaernïaeth daw proses o adeiladu ac addurno, o weithio gyda slabiau clai, o roi at ei gilydd sawl rhan wedi’u gwneud ar wahân.” www.vineetkacker.com
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.