Ganed Emily Waugh ym Mryste ym 1988, ac ar ôl gweld tirlun mewn paent olew wedi’i phaentio gan ei thad-cu roedd hi’n gorfod gwrthsefyll y demtasiwn i gyffwrdd y paent gweadog. Ers hynny, mae hi wedi teimlo dylai celf fod yn rhywbeth y gellid ei gyffwrdd a’i ddefnyddio yn ogystal ag edrych arno. Ym Mhrifysgol Wolverhampton astudiodd BA ac MA Celfyddydau Cymhwysol, a phenderfynodd ei bod am wneud clai yn brif ddeunydd o’i dewis. Yn ystod ei MA, yn 2012, cyfarfu â Okuda Tomoko, a theithiodd i Japan i weithio fel ei chynorthwyydd yn ei chrochendy ac oriel am ddau fis yn Tokoname. Ers cyrraedd yn ôl yn y DU, mae hi wedi bod yn brysur yn cyfieithu’r hyn a welodd yn Japan i mewn i’w nwyddau te porslen a’i bowlenni, wedi’u hysbrydoli gan egwyddorion Bwdhaidd Zen y seremoni de a chaligraffeg Japan.
Wedi cael ei ysbrydoli gan y ffordd Siapaneaidd o ddefnyddio priodweddau naturiol deunyddiau i gwneud gwrthrychau yn hardd, mae hi wedi bod yn archwilio priodweddau hylif porslen mewn perthynas â’r egni a marciau a adawyd gan y crëwr. Ei nod yw creu gwrthrychau cyffyrddol i bobl eu defnyddio neu brofi, a fydd yn ymgolli cymaint o’r synhwyrau â phosibl er mwyn i’r unigolyn ymgysylltu’n llawnach yn yr eiliad y maent ynddo. Trwy wneud hyn mae hi’n gobeithio creu lle tawel mewn amser, ar gyfer iddynt adlewyrchu mewn byd sydd fel arfer yn fyd prysur, anhrefnus.
Cwblhaodd ei MA gyda rhagoriaeth yn 2014, a dechreuodd weithio fel cynorthwyydd oriel i Oriel Serameg Rhydychen ac fel cynorthwyydd crochenwaith, yn gyntaf i Dan Hide ac yna i Margaret O’Rorke. Pan nad yw hi’n gweithio yn un o’i rolau newydd, mae’n canolbwyntio ar wneud ei dyluniadau ei hun a chydweithredu â chyd-wneuthurwyr, gan gynnwys trefnu a churadu arddangosfeydd grŵp.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.