Mae Chen Min yn frodor o Ddinas Zhaotong, Talaith Yunnan, astudiodd yn Sefydliad Serameg Jingdezhen ac mae bellach yn byw yn Ninas Jingdezhen, Talaith Jiangxi. Mae hi wedi gweithio yn y diwydiant serameg ers 20 mlynedd, gan arbenigo mewn ystod o dechnegau addurnol gan gynnwys cerfio ‘bas-relief’ a gwaith brwsh traddodiadol a phaentio. Ar hyn o bryd mae hi’n uwch ddylunydd celf serameg yn Nhalaith Jiangxi, yn uwch ddylunydd celf yn Jingdezhen ac yn aelod o Gymdeithas Celf Serameg Hong Kong.
Ers 2002 mae hi wedi ennill llawer o wobrau aur ac arian mewn arddangosfeydd celf a chrefft a serameg yn Tsieina gan gynnwys gwobr aur yng Nghasgliad Enwog Serameg ‘Top Ten’ Tsieina yn 2011 ac eto yn 2012. Mae ei gweithiau yn cael eu harddangos yn Ffair Porslen China a Theatr Genedlaethol Beijing . Mae hi’n dysgu cerfio serameg i fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymdeithas Serameg Ryngwladol Lotte Jingdezhen.
“Rwy’n rhoi fy mhrofiad a’m dealltwriaeth o fywyd i mewn i fy ngweithiau. Mae gwneud serameg yn fy meithrin ac yn dod â heddwch mewnol. Tra bod y tymheredd yn codi yn yr odyn, mae’r gwydredd yn newid lliw ac rydw i’n tyfu gyda’r broses. Mae pynciau fy ngwaith wedi amrywio o dirweddau a ffurfiau naturiol i ddelweddau Bwdhaidd sydd wedi bod yn ganolbwynt am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r ffydd Fwdhaidd yn dod ag ysbrydoliaeth i mi. Rwy’n caru gweithiau mewn serameg, nhw yw fy ffrind gorau, fy nheulu, fy ngrym gyrru ac yn symbol o’m twf. Mae serameg yn gadael imi weld fy nyfodol. Maen nhw’n creu amser i fyfyrio ac rydw i’n mwynhau pob eiliad.”
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.