Astudiodd Karin Putsch-Grassi serameg yn Sefydliad Celf Fflorens ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Goldsmith’s Llundain. Ei phrif ddiddordeb oedd yn y broses o danio, a dechreuodd adeiladu a thanio gwahanol fathau o odynau ar unwaith: odynau tanio â phren tymheredd isel, odynau nwy, odynau raku a soda wedi’u gwneud o friciau tân a ffibr serameg. Yn 2009 adeiladodd hi a’i gŵr eu hodyn gyntaf o boteli gwin gwag; 500 wedi’u gosod yn llorweddol mewn rhesi ac yn sownd ynghyd â phridd tywodlyd, i uchder o 2.20m. Y prif anawsterau yw sut i ddal y strwythur cyflawn gyda’i gilydd, a pheidio gwresogi’r odyn yn uwch na phwynt toddi’r poteli gwydr. Mae’r canlyniad, fel y gwelwn, yn syfrdanol!