Mae Robert Cooper yn seramegydd sefydledig sydd wedi arddangos yn eang yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi ei swyno gan ddyfalbarhad arteffactau a syniadau. Mae’n aml yn defnyddio gwrthrychau mae o wedi darganfod, fel man cychwyn ar gyfer ei waith. Mae wedi defnyddio ailgylchu fel dull o weithio ers blynyddoedd lawer. Mae gwahanol elfennau megis clai, ocsidau a gwydreddau sy’n weddill o sesiynau addysgu, hen ‘transfers’ serameg, delweddau printiedig o ddiwylliant poblogaidd a hyd yn oed darnau o waith blaenorol yn cael eu hailgyfuno i greu naratifau newydd sydd â sawl ystyr.