Mae Lowri Davies yn artist serameg ifanc ac mae ei threftadaeth Gymreig yn brif ffynhonnell ysbrydoliaeth. Mae ei gwaith yn cyfeirio’n fwriadol at arddangosfeydd llestri nodweddiadol, casgliadau o gofroddion a bric-a-brac yn y cartref, ac mae ei llestri bwrdd wedi’u haddurno â chyfuniad o addurniadau wedi’u hargraffu â sgrin â llaw ac wedi’u hargraffu’n ddigidol, wedi’u gorffen ymhellach gyda lystar aur ac arian, gan ddefnyddio lluniau o adar, tirweddau traddodiadol, planhigion ac anifeiliaid. Mae ei thechneg tsieini esgyrn wedi ei ysbrydoli gan weithio yn Stiwdio Ddylunio Wedgwood.