Mae Hyang Jong Oh o Kwangju yn Ne Corea yn un o’r crochenwyr Onggi uchaf ei barch, sy’n adnabyddus am ei photiau mawr ysblennydd. Wedi’i eni a’i fagu mewn tirwedd ffermio gyfoethog, roedd yn teimlo’n agos at y byd naturiol a’i ddefnyddiau. Roedd yr affinedd yma yn ddefnyddiol iddo wrth astudio serameg ym Mhrifysgol Dankook ac yn ddiweddarach yn Seoul, a datblygodd ei astudiaethau serameg gyda sawl crefftwr traddodiadol. Ymhen amser caniataodd ei feistrolaeth ar dechnegau traddodiadol iddo greu ei arddull unigryw ei hun; arddull y mae’n teimlo sydd wedi cael dylanwad arbennig gan waith Koie Ryoji a Rudy Autio. “Pwy ydw i? O ble ddes i ac i ble ydw i’n mynd? Sut y byddaf yn byw fy mywyd? Beth yw celf?… Rwy’n dal i geisio ateb fy nghwestiynau a gobeithio y byddaf yn gallu mynegi fy nhaith trwy Serameg.”