Mi wnaeth enillydd y Wobr Gwneuthurwyr Cyfoes Jerwood 2010 Conor Wilson astudio serameg ym Mryste a Chaerdydd ac mae wedi gweithio ac arddangos ers hynny mewn amrywiaeth o gyd-destunau – celf gyhoeddus, perfformio, cerflunio a serameg. Yn yr ŵyl bydd yn arddangos techneg addurno draddodiadol/ddigidol hybrid ar botiau wedi adeiladu â slabiau a phaneli waliau gwastad ynghyd â thechnegau addurno slip a gwydredd traddodiadol – stensiliau, brwsio, arllwys, llusgo a ‘feathering’.