logo

Mick Morgan (CYMRU)

Mick Morgan

Crochenydd a cherflunydd yw Mick Morgan sy’n defnyddio technegau Raku, ac yn byw ac yn gweithio yn Talog, Gorllewin Cymru. “Astudiais serameg yn UWIC o 1971-’74 gyda’r pwyslais ar nwyddau domestig wedi’u taflu a’u tanio â nwy. Dyma oedd fy mhrif ffocws am yr ugain mlynedd ganlynol ond newidiais o nwy i danio gyda phren ar ôl tua deng mlynedd. Tua 1990, dechreuais ymddiddori mewn tanio raku ond yn bennaf fel cymorth dysgu gyda’r bwriad o gyflwyno myfyrwyr i broses danio hydrin. Nid yw fy niddordeb mewn raku wedi lleihau ac mae’n parhau ond rwy’n defnyddio sawl math o danio i greu’r effaith rwy’n dymuno. Mae hyn wedi fy arwain i lawr llawer o lwybrau o ymchwiliad, llawer yn ofer ond bob amser yn gyffrous. Rhoddais gynnig ar danio cyntefig y tro gyntaf wrth ddysgu myfyrwyr o UWIC ar gwrs yn Ffrainc a dod ar draws clai cyntefig ar hap; cawsom rai canlyniadau syfrdanol. Mae hyn wedi fy nenu i arbrofi gyda chyrff clai gyda’r nod o danio cyntefig ac er y bu rhywfaint o lwyddiant, rwy’n rhagweld taith hir o fy mlaen! ”

Date: October 17, 2020