Ers 2013 rydym wedi bod yn falch iawn i groeso Hanesydd Serameg, Lars Tharp, fel ein Harlywydd Gŵyl
Anrhydeddus. Ar ôl astudio archeoleg gynhanesyddol yng Ngholeg Caius, Caergrawnt, ymunodd Lars â
Sotheby’s, gan arbenigo mewn serameg Tsieineaidd. Tra yno cafodd wahoddiad i dîm Antiques
Roadshow (1986 i’r presennol). Yn 1993 gadawodd yr arwerthwyr i sefydlu ei gwmni ei hun, Lars Tharp
Ltd (www.tharp.co.uk), gan gynghori ar bob agwedd ar serameg ac ar gaffael, gofalu a gwaredu celf yn
gyffredinol. Roedd ei ymddangosiad cyntaf fel curadur gwadd ym 1997 gyda’i Hogarth’s China (Ffair a
Seminar Ryngwladol Serameg ac yn ddiweddarach yn Amgueddfa Wedgwood).
Mae Lars yn darlledu’n aml ar y teledu ac ar y radio (BBC3 a BBC4). Yn ogystal â’r Roadshow (1986 i’r
presennol) mae wedi ysgrifennu a chyflwyno dwy ffilm ar gyfer y BBC: ‘Treasures of Chinese Porcelain’
(BBC 2011) lle dilynodd y llwybr masnach hanesyddol dros-dir lle cafodd porslen Tsieineaidd ei allforio o
Jingdezhen i Ganton (Guangzhou); ac wedyn ‘China in Six Easy Pieces’ (BBC 2013) lle ef oedd y cyntaf i
ffilmio Casgliad enwog Percival David, y casgliad serameg preifat gorau y tu allan i Tsieina / Taiwan ac
sydd bellach yng ngofal yr Amgueddfa Brydeinig.
Gan gredu bod gwrthrychau difywyd yn dod yn fyw a hyd yn oed yn newid eu ‘hymddangosiad’ unwaith y
byddwn yn gwybod mwy am eu tarddiad a’u hanes, mae ei ffilmiau diweddar wedi ail-fuddsoddi
canfyddiad pobl, nid dim ond am serameg Tsieineaidd (sut y cawsant eu gwneud, y llafur arwrol oedd yn
rhan o’u creu a’u dod â nhw i Ewrop, ac ati), ond o Gelf y Crochenydd yn gyffredinol. Pan yn cael cyfle i
chwarae o gwmpas hefo clai, bydd Lars fel arfer yn bachu arno!
Yn anffodus ymddeolodd Henry Sandon fel arlywydd ein gŵyl yn 2013. Roedd Henry yn ei elfen yn yr
Ŵyl, wedi’i amgylchynu gan botiau a chrochenwyr ac roedd ei ddarlithoedd yn darparu gwybodaeth
helaeth i ymwelwyr i’r ŵyl o serameg ynghyd ag amrywiaeth o straeon difyr. Bydd colled fawr ar ei ôl a
byddwn bob amser yn ei groesawu fel gwestai anrhydeddus.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.