Mae’r ICF yn Gwmni Cyfyngedig di-elw sydd yn cael ei redeg gan Grochenwyr Gogledd Cymru, Crochenwyr De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Mae pob un o’r cyfranddalwyr yn penodi dau gyfarwyddwr i drefnu’r ŵyl ar eu rhan, ac mae’r ddau ohonynt yn darparu eu gwasanaethau ar sail wirfoddodol. Mae nawdd ychwanegol yn ein helpu i barhau i redeg yr Ŵyl, yn ogystal â datblygu cyfleoedd i bawb i brofi serameg y tu hwnt i benwythnos yr ŵyl. Mae’r ICF yn ŵyl bob dwy flynedd ryngwladol o fri ac yn un o ddigwyddiadau serameg mwyaf Ewrop. Hwn yw’r unig ŵyl i arddangos seramegwyr, tanwyr a darlithwyr arweiniol hefo’u gilydd mewn un lle.
Rydym yn ceisio o hyd am eich cymorth ariannol i ddiogelu’r digwyddiad at y dyfodol. Bydd unrhyw roddion, boed yn fach neu yn fawr, yn gwneud gwahaniaeth mawr ar gyfer ddiogelu’r ŵyl ar gyfer cenedlaethau yn y dyfodol. Bydd pob rhodd yn cael ei gydnabod ar ein gwefan oni bai a ofynnir am breifatrwydd.
Rhodd un amser
Yn cael ei dalu fel un swm ar ddyddiad rydych yn ei ddewis.
Rhodd Cofeb
Yn cael ei dalu er cof rhywun arbennig.
Rhodd Cymynrodd
Anrhegion wedi eu gwneud trwy ewyllys i ddarparu costau gweithredu cyffredinol. Anrhegion wedi eu gwneud i sefydlu digwyddiadau penodol sydd yn cael eu darparu yn yr Ŵyl.
Mae ein noddwyr corfforaethol yn darparu cymorth ariannol, offer a deunyddiau; ‘work-in-kind’ a chymorth cyffredinol a chyngor. Heb hyn efallai na fyddai’r ŵyl yn bosib. Mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi’r ŵyl; rydym yn enwedig yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd eraill y tu allan i’r ŵyl er enghraifft datblygu mwy o breswyliadau i wneuthurwyr newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Os hoffech noddi’r ŵyl os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.
Mae pecynnau ar gyfer noddi a rhoddion corfforaethol yn gallu cael eu teilwra i’ch gofynion penodol.
Rhodd noddi a awgrymir
Mae £300 yn noddi cost darlith
Mae £200 yn noddi arddangoswr myfyrwyr
Mae £500 yn noddi arddangoswr o’r DU
Mae £500 yn noddi’r Sêl Gwpanau
Mae £500 yn noddi arddangosfa’r arddangoswyr
Mae £500 yn noddi rhaglen addysg ysgol
Mae £500 yn noddi adeiladu odyn
Mae £500 yn noddi arddangoswr rhyngwladol
Mae £500 yn noddi’r babell gweithgareddau
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2025 all rights reserved.