Gŵyl Serameg Ryngwladol | International Ceramics Festival 2019 from International Ceramics Festival on Vimeo.
Mae’r ICF yn un o brif wyliau serameg Ewrop ac yn cael ei chynnal yn Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gampws Prifysgol Aberystwyth ar arfordir canoldir Cymru. Ers iddo ddechrau yn 1987, mae’r ŵyl tri diwrnod wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad arweiniol serameg y DU. Mae’n cynnig athrawon, myfyrwyr, artistiaid cerameg, casglwyr celf, crochenwyr, amaturiaid a rhai sydd yn hoffi crefft, y cyfle i gyfarfod ac astudio gwaith gan grochenwyr nodedig rhyngwladol ac artistiaid serameg o Gymru, y DU ac o ar draws y byd.
Mae’r Ŵyl yn denu dros 1000 o bobl sydd yn mynychu’r darlithoedd, yn gwylio’r arddangoswyr ac yn ymweld ag ein harddangosfeydd dros benwythnos hir ar ddiwedd mis Mehefin neu yn gynnar yn fis Gorffennaf. Mae ein harddangoswyr rhyngwladol yn arddangos eu sgiliau a thechnegau ar ein llwyfan sydd wedi ei addasu yn arbennig, a hefyd hefo eu gweithleoedd eu hunain – yn galluogi trafodaeth bersonol am eu gwaith. Mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar fod yn ymarferol ac yn ysbrydoledig ar yr un amser – mae odynau yn cael eu hadeiladu, a photiau yn cael eu creu a’u tanio.
Mae’r ŵyl yn cefnogi gwneuthurwyr newydd a hefo cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion newydd sydd yn gweithio hefo clai trwy serameg, celf gain neu ar gyrsiau dylunio 3-D. Os ydych yn sefydliad addysgu a hoffech i ni drefnu ymweliad i siarad hefo eich myfyrwyr, cysylltwch gyda swyddfa’r ŵyl. Gwelwch Gyfleoedd Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
Mae’r ŵyl yn cynnig ymwelwyr cyfleoedd i gymryd rhan yn ystod yr ŵyl, gydag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, yn ogystal â’r cyfle i bleidleisio ar gyfer y Wobr Cyflawniad Oes a rhoi gwaith ar werth yn y sêl cwpanau. Mae’r ŵyl yn cael ei noddi gan Potclays, un o’r prif gyflenwyr serameg yn y DU, ac yn cael ei chefnogi gan gyflenwyr serameg eraill hefyd. Mae ganddo gefnogaeth ariannol gan y Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae dau grŵp crochenwyr, y Crochenwyr Gogledd Cymru a Chrochenwyr De Cymru, ynghyd a Phrifysgol Aberystwyth yn trefnu’r ŵyl.
Mae Cymdeithas y Crochenwyr Gogledd Cymru yn dod a pob math o bobl sydd gyda diddordeb mewn clai at ei gilydd; crochenwyr proffesiynol, amaturiaid, myfyrwyr, athrawon, a chasglwyr. Ein hamcan yw addysgu ac ysgogi trwy’r cyfnewid o dechnegau, syniadau ac athroniaeth, wrth ddarparu cyfleoedd marchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer ein haelodaeth gyda’n rhaglen arddangosfeydd.
Mae gennym galendr llawn o ddigwyddiadau, sydd yn cynnwys arddangosiadau a chyflwyniadau gan grochenwyr wedi eu gwadd o’r DU ac ar draws y byd. Dros fwyd a gweithgareddau wedi eu rhannu, rydym yn cael profiad o dechnegau a sgiliau newydd i ddefnyddio yn ein gwaith ein hunain, yn defnyddio’r defnydd anhygoel clai. Os hoffech ddysgu mwy amdanom ewch i ymweld â’n gwefan:
http://www.northwalespotters.wales/
Membership secretary: Eleni Marjot, 1 Hafod Lon, Lon Ganol, Menai Bridge, Anglesey, LL59 5UD
Ffon: (H) 01248 208712 (M) 07751134234 e-mail: elenimarjot@hotmail.com
Sefydlwyd Crochenwyr De Cymru, y grŵp crochenwyr rhanbarthol cyntaf ym Mhrydain, yn 1964. Mae gan y gymdeithas ystod eang o aelodau ac mae’n croesawu unrhyw un sy’n rhannu ei nodau a’i ddiddordebau, boed yn broffesiynol, yn fyfyriwr, yn grochenydd hobi neu’r rheini sydd â diddordeb mewn serameg. Ei nodau yw parhau i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth ei aelodau a darparu cyfleoedd i farchnata eu gwaith wrth godi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd. Hwylusir hyn gan arddangosiadau, darlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol sydd hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd, cyfnewid syniadau, ac elwa ar gyd-gefnogaeth.
Mae aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau gan gylchgrawn chwarterol, ‘Shards’. Mae gwefan yn cynnig cyfle i arddangos delweddau o waith crochenwyr ac yn darparu llwyfan ar gyfer newyddion, barn a datblygiadau technegol. Mae aelodau o’r cyhoedd yn gallu cael mynediad am ddim i’r wefan hon. Mae gwasanaeth diweddaru hefyd yn sicrhau y cysylltir yn uniongyrchol â’r rheini sydd â mynediad at gyfrifiadur pan fo hynny’n briodol, gyda’r gweddill yn cael eu diweddaru trwy’r post.
http://www.southwalespotters.org.uk/
Mae Canolfan y Celfyddydau arobryn Aberystwyth yn cael ei chydnabod fel ‘safle blaenllaw cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau’ gyda chyfleusterau heb eu hail ledled llawer o’r DU. Mae’r Canolfan y Celfyddydau yn croesawu dros 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda rhaglen lawn a phrysur o berfformiadau, sinema, arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig a’r gwasanaeth celfyddydau ac addysg gymunedol fwyaf helaeth yng Nghymru.
Ymhlith y cyfleusterau yn y lleoliad mae neuadd gyngerdd, theatr, orielau, sinema, stiwdio, ac amrywiaeth o gyfleusterau gweithdy pwrpasol gan gynnwys stiwdio serameg, ystafell ffotograffig a stiwdios dawns. Ychwanegiad newydd yn 2010 oedd yr Unedau Creadigol nodedig; canolbwynt o stiwdios a gofodau ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, maent hefyd yn gartref i Artistiaid Preswyl y Ganolfan Gelf yn y DU ac yn rhyngwladol.
www.aberystwythartscentre.co.uk
Bwrdd Cyfarwyddwyr:
Cadeirydd: Moira Vincentelli (Prifysgol Aberystwyth)
Ffion Rhys (Prifysgol Aberystwyth)
Wendy Lawrence (Crochenwyr Gogledd Cymru)
Ian Marsh (Crochenwyr Gogledd Cymru)
Lesley Elliott (Crochenwyr De Cymru)
Peter Midmore (Crochenwyr De Cymru)
Sue Barnes
Billy Adams
Hasan In
Bev Milward
Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i wybodaeth am arddangoswyr y gorffennol a digwyddiadau gŵyl. Cliciwch ar y testun o dan pob delwedd i lawrlwytho’r rhaglenni llawn o wyliau’r gorffennol:
Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg » Archif Rhaglen yr Ŵyl (internationalceramicsfestival.org)
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.