Thema sy’n cysylltu arddangoswyr yr Ŵyl eleni yw Cysylltiadau Naturiol.
Bydd pedair rhan gan bedair seramegydd a ysbrydolwyd gan y byd ffisegol – y lleol a‘r byd-eang – sef yr artistiaid Halima Cassell, Jane Perryman, Sian Lester a Carine Van Gestel.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r grymoedd daearegol elfennol hyn, mae Carine Van Gestel yn rhannu ei hangerdd at glai ac yn dangos sut mae hi’n dehongli’r rhain yn ei llestri clai estynedig, bowliau Borth a sfferau clai gwyllt heb eu danio. Myfyria Siân Lester ar y cyflyrau alcemeg a symbiotig sy’n gysylltiedig â gweithio gyda chlai, brethyn, planhigion a chymuned, gan ganolbwyntio ar ein perthynas sydd yn glwm â’r elfennau a rhythmau tymhorol.
Defnyddia prosiect diweddar Halima Cassell Virtues of Unity glai o wahanol wledydd ar draws y byd gyda phob llestr wedi’i henwi ar ôl rhinwedd sy’n awgrymu cysylltiad ac undod i holl ddynoliaeth.
> Halima Cassell Virtues of Unity
“Rydyn ni i gyd yn dod o’r ddaear a dyma’r un ddaear y byddwn ni i gyd yn dychwelyd iddi.” – Halima Cassell
Yn Virtues of Unity, a ddechreuwyd yn 2009, mae pob un o gerfluniau clai Cassell wedi’u cerfio o glai a gafwyd o wahanol wledydd ledled y byd. I Halima mae’r cerfluniau clai yn drosiad o’r hil ddynol.
Allwch chi helpu’r ICF i ddod o hyd i glai ar gyfer gosodiad Virtues of Unity Halima Cassell?
Dyma gyfle unigryw i fod yn gyfrannwr i’r gwaith gosod nodedig hwn. Mae’r gosodiad yn tyfu bob blwyddyn ac mae pob cerflun wedi’i wneud o glai o wahanol wlad yn y byd. Mae Halima wedi creu darnau o 34 o wledydd hyd yn hyn ac yn edrych i ychwanegu llawer mwy o wledydd eleni.
Mae Halima yn chwilio am glai gwlyb glân, 12-16kg ac mae’n rhaid bod y prif gynhwysyn wedi’i gloddio o’r wlad i gael ei gynrychioli. Os yw hyn yn rhywbeth y gallech ei wneud, gallwch naill ai ei bostio i Halima (wedi’i farcio fel ‘Anrheg – Deunydd Artist’) a bydd yn eich ad-dalu neu gallwch ddod ag ef gyda chi i’r arddangosfa (wedi’i gludo i mewn fel bagiau ychwanegol, bydd unrhyw gostau’n cael eu had-dalu i chi). Byddai angen cytuno ar y costau ymlaen llaw.
Yma fe welwch restr o’r gwledydd sydd wedi’u cynnwys hyd yn hyn a’r rhai sy’n weddill i’w hawlio: https://www.halimacassell.com/virtues-of-unity-sourced-locations
Mae rhagor o fanylion am y prosiect ar gael yma: https://www.halimacassell.com/virtues-of-unity
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.