Cyflwynir Gwobr Cyflawniad Oes Potterycrafts i grochenydd neu seramegydd sydd wedi gwneud llawer i hyrwyddo’r celfyddydau serameg yn ystod eu bywyd. Dewisir derbynnydd y wobr hon o gynigion a wnaed gan y gwesteion ac ymwelwyr yn yr ŵyl flaenorol. Mae’r wobr yn cael ei chadw’n gyfrinach nes ei chyhoeddi yn ystod yr Agoriad Swyddogol ar nos Wener penwythnos yr Ŵyl. Gwneir darn o waith serameg gan seramegydd nodedig i gyflwyno i’r derbynnydd yn ystod y Seremoni Agoriadol.
Dyfarnwyd y Wobr 2019 i Magdalene Odundo.
Enillwyr Gwobr Cyflawniad Oes Blaenorol:
2017 – David a Margaret Frith (DU)
2015 – Alan Caiger Smith (DU)
2013 – Walter Keeler (DU)
2011 – Emmanuel Cooper (DU)
2009 – Don Reitz (UDA)
2007 – Ruth Duckworth (UDA)
2005 – David Leach (DU) a Frank a Janet Hamer (DU)
2003 – Janet Mansfield (Awstralia) a Warren McKenzie (UDA)
2001 – Michael Casson (DU)
1999 – Ray Finch (DU)
Os hoffech enwebu rhywun yr ydych yn meddwl sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fyd serameg ar gyfer y Wobr Cyflawniad Oes Potterycrafts 2021 anfonwch eich enwebiadau at:
Gwobr Cyflawniad Oes Potterycrafts 2021, Yr Ŵyl Serameg Ryngwladol C/O Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DE Cymru, DU.
Neu e-bostiwch administrator@icfwales.co.uk gyda theitl pwnc yr e-bost: Gwobr Cyflawniad Oes Potterycrafts 2021
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau, neu eisiau dweud helo!
© Yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg 2024 all rights reserved.